Lles
Rydym fel Cyngor Lles yn frwdfrydig iawn, ac yn gweithio'n galed i gefnogi holl ddisgyblion yr ysgol i ddatblygu'n unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw
bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau yn cael eu cynnal yn yr ysgol, gan ganolbwyntio ar gefnogi lles ac annog meddylfryd bositif gan bawb. Mae'r Cyngor yn
cyfarfod yn gyson, ac yn griw gweithgar iawn. Rydym yn bwriadu cychwyn busnes gwerthu llyfrau reseit bwydydd iachus y plant a chymuned yr ysgol eleni.
Flwyddyn diwethaf mi wnaethon ni greu posteri, breichledi ffrindiau, cardiau, bathodynnau ac ati hefo negeseuon pwysig, sydd yn canolbwyntio ar les, a bod yn
bositif, er mwyn datblygu ein sgiliau menter a busnes ymhellach. Rydym fel aelodau o'r Cyngor Lles yn annog disgyblion i helpu, a bod yn garedig wrth eraill.
Rydym yn gwisgo bathodyn sy'n atgoffa pawb ein bod yn hapus i sgwrsio ac yn barod i helpu. Flwyddyn diwethaf, bu i ni gasglu £150 tuag at elusen Macmillan,
ac rydym yn mwynhau cefnogi elusenau ynghyd â'n cymuned leol. Eleni, ryden ni'n bwriadu cefnogi ein banc bwyd lleol.
Un o'r pethau rydym yn hynod falch ohonno ydi datblygu ystafell dawel, ymlaciol yn yr ysgol sydd wedi ei henwi'n 'Ystafell Enfys', ac mae'r ystafell wedi bod yn
lwyddiant mawr wrth gefnogi'r plant. Mae datblygu meddylfryd bositif yn bwysig iawn i ni fel cyngor.
CADEIRYDD
Helo fy enw i yw Evalynne ac yn fy amser rhydd rydw in hoffi chware pêl-droed a siarad gyda fy ffrindiau. Fy hoff lliw iw pinc, piws a glas.
Y swydd i ar y cyngor Lles yw y cadeirydd. Mae’r cyngor Lles yn cefnogi y Ward plant yn Wrecsam. Fel mae’r dysgwyr hyn yn cynrychioli y
cyngor Lles rydan ni eisio helpu plant gyda iechyd meddwl a phawb i fod yn ffrindiau.
IS-GADEIRYDD
Helo fy enw i yw Ani.
Rydw i yn Is-cadeirydd ar y cyngor Lles. Fy hoff beth yn yr ysgol yw chwarae tu allan a gweld fy ffrindiau. Rydw i yn cefnogi Cymru, Wrexham
a Lerpwl. Mae’r cyngor Lles yn cefnogi Wardplant a Iechyd meddwl a fod pawb yn ffrindiau ac yn hapus.
YSGRIFENNYDD
Helo fy enw i Phoebe.
Rydw i yn blwyddyn 6. Rydw i ar y cyngor lles. Fy hoff peth i wneud yn yr ysgol yw neud addysg gorfforol a Rygbi a hefyd rydw i yn hoffi
chware pêl-droed. Rydw i y ysgrifenydd ar y cyngor lles. Fel cyngor lles rydan ni yn trio gwella lles plant a iechyd meddwl. Rydan ni yn cefnogi
Ward plant yn Wrecsam a rydan ni wedi casglu teganau a siocled i Alderhay yn Lerpwl. Diolch yn fawr am darllen
TRYSORYDD
Helo fy enw i ydy Finnley.
Rydw i yn blwyddyn 6. Dwi ar cyngor lles ac rydw in trysorydd. Rydan yn cefnogi ward plant yn Wrecsam
Llwyddodd y Cyngor Lles i gasglu £145 i MacMillan wrth gynnal diwrnod o hwyl yn yr Ysgol.
Diolch yn fawr i'r Cyngor Lles am drefnu.
01490 412500
ysgol.brodyfrdwy@sirddinbych.gov.uk
Cysylltu |
Contact
Ysgol Bro Dyfrdwy,
Cynwyd,
Corwen,
Sir Ddinbych,
LL21 OLG
Ysgol Bro Dyfrdwy © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs