Siarter Iaith

Ni yw aelodau’r Siarter Iaith sydd wedi cael ein hethol gan ein cyd- ddisgyblion i geisio rhoi ffocws arbennig a statws i'r Iaith Gymraeg yn Ysgol Bro Dyfrdwy. Mae’r Iaith Gymraeg yn bwysig iawn i ni yma yn yr ysgol a dyna pam ein bod yn gweithio’n galed i feddwl am ffyrdd newydd a gwahanol i annog ein cyd ddisgyblion i weithio, sgwrsio, chwarae a mwynhau trwy’r Gymraeg. Rydym yma i helpu plant i ddysgu'r iaith a dod yn fwy hyderus wrth siarad Cymraeg. Mae’n bwysig dangos i blant Ysgol Bro Dyfrdwy pa mor bwysig i ni yw’r iaith Gymraeg. Mae’n iaith hynafol ac mae’n ddyletswydd arnom i ofalu amdani. ​​​ Pecyn gwybodaeth i gefnogi rhieni sydd yn dysgu Cymraeg Helo fy enw i ydy Gareth Billington, rydw i yn nosbarth Bendigeidfran a fi yw Cadeirydd y Cyngor Siarter Iaith eleni. Rydw i’n byw yng Ngwyddelwern. Fy niddordebau i yw chwarae pêl- droed, gwaith Maths a darllen. Rwyf eisiau bod ar Gyngor Y Siarter Iaith oherwydd fy mod i eisiau gwneud yn siwr fod pawb yn siarad Cymraeg yn Ysgol Bro Dyfrdwy. Rydw i eisiau bod yn gadeirydd oherwydd mae gen i syniadau da i'w rhannu. Rydw i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda gweddill y cyngor. Diolch yn fawr am y cyfle.
Ysgol Bro Dyfrdwy © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
‘Yn y llaw fach, mae’r holl fyd’
English

Siarter Iaith

Ni yw aelodau’r Siarter Iaith sydd wedi cael ein hethol gan ein cyd-ddisgyblion i geisio rhoi ffocws arbennig a statws i'r Iaith Gymraeg yn Ysgol Bro Dyfrdwy. Mae’r Iaith Gymraeg yn bwysig iawn i ni yma yn yr ysgol a dyna pam ein bod yn gweithio’n galed i feddwl am ffyrdd newydd a gwahanol i annog ein cyd ddisgyblion i weithio, sgwrsio, chwarae a mwynhau trwy’r Gymraeg. Rydym yma i helpu plant i ddysgu'r iaith a dod yn fwy hyderus wrth siarad Cymraeg. Mae’n bwysig dangos i blant Ysgol Bro Dyfrdwy pa mor bwysig i ni yw’r iaith Gymraeg. Mae’n iaith hynafol ac mae’n ddyletswydd arnom i ofalu amdani. ​​​ Pecyn gwybodaeth i gefnogi rhieni sydd yn dysgu Cymraeg Helo fy enw i ydy Gareth Billington, rydw i yn nosbarth Bendigeidfran a fi yw Cadeirydd y Cyngor Siarter Iaith eleni. Rydw i’n byw yng Ngwyddelwern. Fy niddordebau i yw chwarae pêl-droed, gwaith Maths a darllen. Rwyf eisiau bod ar Gyngor Y Siarter Iaith oherwydd fy mod i eisiau gwneud yn siwr fod pawb yn siarad Cymraeg yn Ysgol Bro Dyfrdwy. Rydw i eisiau bod yn gadeirydd oherwydd mae gen i syniadau da i'w rhannu. Rydw i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda gweddill y cyngor. Diolch yn fawr am y cyfle.
Ysgol Bro Dyfrdwy © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
‘Yn y llaw fach, mae’r holl fyd’