Eco

Y Cyngor Eco sy'n gyfrifol am edrych ar ôl tir yr ysgol. Rhaid gwneud awdit eco blynyddol i weld ble mae'r cryfderau a'r gwendidau o fewn yr ysgol. Hefyd, mae'n hanfodol cael cyfarfodydd yn rheolaidd i drafod sut i wella'r amgylchedd ar dir yr ysgol. Cafodd aelodau'r Cyngor Ysgol eu hethol gan ein cyd-ddisgyblion yn y dosbarth ac roedd rhaid iddynt ystyried pam eu bod eisiau bod yn rhan o'r Cyngor Eco i ennill eu seddi. Mae cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd eisoes wedi eu penodi. Rydym yn hynod o falch o fod yn aelodau o'r Cyngor Eco ac yn gwisgo bathodyn bob dydd. Mae'n bwysig gennym i ddilyn gwaith gwych y cynghorau eco blaenorol i sicrhau ein bod yn parhau gyda'n statws 'Gwobr Platinwm Eco- Ysgolion'. Rydym yn edrych ymlaen at drefnu nifer o ddigwyddiadau dros y flwyddyn ac edrychwn ymlaen at greu busnes newydd gyda menter 'Den y Ddraig'. Byddwn yn edrych ymlaen at dyfu llysiau a ffrwythau ac yna eu gwerthu i ffrindiau'r ysgol gobeithio! Fel aelodau o'r Cyngor Eco, rydym yn falch o fod yn grŵp o blant sydd yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus ac edrychwn ymlaen yn fawr i'r sialensiau a wynebwn dros y flwyddyn i ddod. Fy enw i ydi Joseph Lawrence, ac rydw i yn blwyddyn 6. Fy hoff liw ydi glas ac rydw i’n mwynhau chwarae rygbi. Fy hoff fwyd ydi pitsa. Rydw i’n hoffi dysgu am y blaned ac anifeiliaid. Mae gen i ddwy lygoden adre o’r enw Dobby a Daisy. Rydw i eisiau bod ar y cyngor eco oherwydd fod natur yn bwysig i fi. Mae gen i lawer o wybodaeth am natur a dwi’n meddwl bod o’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl y blaned.
Ysgol Bro Dyfrdwy © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
‘Yn y llaw fach, mae’r holl fyd’
English
Dyma plant yr ysgol a rhieni yn helpu gyda clwb garddio.
Dyma ni yn gwerthu'r llysiau a perlysiau rydan wedi bod yn tyfu yn ein ardd dros y flwyddyn. Wnaethom hefyd creu wrapiau brechdannau gallem ail ddefnyddio i werthu yn y ffair, diolch i Mam Owain ac Eiddwen am helpu ni!
Rydan wedi bod yn lwcus iawn i gadw ein statws Banner Wyrdd gyda'r Eco Ysgolion flwyddyn yma!
Dyma ni yn hel sbwriel o gwmpas yr ysgol!

Eco

Y Cyngor Eco sy'n gyfrifol am edrych ar ôl tir yr ysgol. Rhaid gwneud awdit eco blynyddol i weld ble mae'r cryfderau a'r gwendidau o fewn yr ysgol. Hefyd, mae'n hanfodol cael cyfarfodydd yn rheolaidd i drafod sut i wella'r amgylchedd ar dir yr ysgol. Cafodd aelodau'r Cyngor Ysgol eu hethol gan ein cyd-ddisgyblion yn y dosbarth ac roedd rhaid iddynt ystyried pam eu bod eisiau bod yn rhan o'r Cyngor Eco i ennill eu seddi. Mae cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd eisoes wedi eu penodi. Rydym yn hynod o falch o fod yn aelodau o'r Cyngor Eco ac yn gwisgo bathodyn bob dydd. Mae'n bwysig gennym i ddilyn gwaith gwych y cynghorau eco blaenorol i sicrhau ein bod yn parhau gyda'n statws 'Gwobr Platinwm Eco-Ysgolion'. Rydym yn edrych ymlaen at drefnu nifer o ddigwyddiadau dros y flwyddyn ac edrychwn ymlaen at greu busnes newydd gyda menter 'Den y Ddraig'. Byddwn yn edrych ymlaen at dyfu llysiau a ffrwythau ac yna eu gwerthu i ffrindiau'r ysgol gobeithio! Fel aelodau o'r Cyngor Eco, rydym yn falch o fod yn grŵp o blant sydd yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus ac edrychwn ymlaen yn fawr i'r sialensiau a wynebwn dros y flwyddyn i ddod. Fy enw i ydi Joseph Lawrence, ac rydw i yn blwyddyn 6. Fy hoff liw ydi glas ac rydw i’n mwynhau chwarae rygbi. Fy hoff fwyd ydi pitsa. Rydw i’n hoffi dysgu am y blaned ac anifeiliaid. Mae gen i ddwy lygoden adre o’r enw Dobby a Daisy. Rydw i eisiau bod ar y cyngor eco oherwydd fod natur yn bwysig i fi. Mae gen i lawer o wybodaeth am natur a dwi’n meddwl bod o’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl y blaned.
Ysgol Bro Dyfrdwy © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
‘Yn y llaw fach, mae’r holl fyd’
Dyma plant yr ysgol a rhieni yn helpu gyda clwb garddio.
Dyma ni yn gwerthu'r llysiau a perlysiau rydan wedi bod yn tyfu yn ein ardd dros y flwyddyn. Wnaethom hefyd creu wrapiau brechdannau gallem ail ddefnyddio i werthu yn y ffair, diolch i Mam Owain ac Eiddwen am helpu ni!
Rydan wedi bod yn lwcus iawn i gadw ein statws Banner Wyrdd gyda'r Eco Ysgolion flwyddyn yma!
Dyma ni yn hel sbwriel o gwmpas yr ysgol!