Criw o ddisgyblion gweithgar a brwdfrydig iawn ydym ni sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn Ysgol Bro Dyfrdwy. Rydym wedi ein hethol gan ein cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu llais a chodi materion sydd o bwys gydag Mr Owen, Pennaeth yr ysgol a llywodraethwyr yr ysgol. Hefyd gallem fwrw ymlaen a phrosiectau ar ran disgyblion yr ysgol. Rydym hefyd yn credu’n gryf mewn codi arian i elusennau sy’n helpu plant a phobl llai ffodus na ni. Dros yr amser mae’r Cyngor wedi cefnogi sawl elusen yn lleol a chenedlaethol.Rhai gweithgareddau rydym yn gweithio arno yw rheolau amser chwarae a rheolau aur yr ysgol er mwyn eu cadw’n gyfredol. Rydym wedi gwrando ar lais ein cyfoedion a gwella amser chwarae drwy ariannu offer chwarae i bob dosbarth, posteri mawr o amgylch yr ysgol a wal ddringo ar wal yr ysgol.Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i ni cynghorwyr:- gynrychioli yr holl ddisgyblion y gorau y gallem - gymryd amser i wrando ar yr holl ddisgyblion ac i gyfleu eu llais- rhoi adborth yn ol i ddisgyblion am yr hyn ddigwyddodd am eu barn/syniadau- wneud i bethau ddigwydd – neu esbonio pam nad yw hyn yn bosib weithiau.
01490 412500
ysgol.brodyfrdwy@sirddinbych.gov.uk
Cysylltu |
Contact
Ysgol Bro Dyfrdwy,Cynwyd,Corwen,Sir Ddinbych,LL21 OLG